Home

 
welsh literary images
Syniadaeth cyfieithu Cymraeg-Saesneg
About Bullet - Welsh Language

Yr hyn sydd o ddiddordeb arbennig yng ngoleuni’r math o waith y mae Astudiaethau Cyfieithu’n ymgymryd ag ef yw’r amryw fympwyon a gorchmynion gwleidyddol-ddiwylliannol sydd wedi rhoi ysgogiad i gyfieithiadau ac a gyflwynir ynddynt. Mae’r canlynol felly yn ddosbarthiad bras o’r syniadaeth a amlygir mewn/fel cyfieithiadau o’r Gymraeg i’r Saesneg:

Sylfaenoldeb

Fe ddechreuodd cyfieithu fel mynegiad lleol, tua diwedd y ddeunawfed ganrif, o’r ffenomenon a oedd yn bodoli ledled Ewrop, sef “olrhain gwreiddiau” – agwedd allweddol, wrth gwrs, ar y broses fodern o greu cenedl, ymgais i ddiffinio cenedl fel “ffaith” hanesyddol hynafol, sefydledig. Mae’n werth nodi, yn achos y Cymry, ei fod wedi dechrau yr un pryd ag y darganfuwyd ysgrifau barddonol go iawn a gwirioneddol hen (o’u cymharu â ffugion gwych Iolo Morgannwg) a oedd yn rhoi tystiolaeth hanesyddol i bobl a oedd yn cael eu trin fel pe baent yn israddol yn ddiwylliannol bod gan eu diwylliant hen awdurdod nad oedd yn “amheus” bellach ac nad oedd y diwylliant yn “israddol”.
Nôl

Cyfraniaeth

O’r dechrau, a thrwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd hi’n bwysig gan nifer o gyfieithwyr eu bod yn gallu gwahaniaethu rhwng eu cenedlaetholdeb diwylliannol eu hunain a chenedlaetholdeb gwleidyddol a oedd fel petai’n bygwth hygrededd y wladwriaeth “Brydeinig”. Yn ogystal – ac fel y mae rhagymadroddion o’r cyfnod yn tystiolaethu - roedd awydd i gyflwyno cyfieithiadau fel “teyrnged”; hynny yw, tystiolaeth o’r cyfraniad (hyglod, ond anweladwy gynt) yr oedd Cymru wedi ei wneud i ddiwylliant Prydeinig clodfawr a oedd wedi dod yn flaenllaw ledled y byd.
Nôl

Celtigiaeth

O’r cyfnod cynharaf hyd y presennol, bu tueddiad wrth gyfieithu i ymwrthod â chyswllt hanesyddol a gwleidyddol y deunydd drwy ei gyfleu fel gwaith a oedd yn bennaf yn Geltaidd, ac nad oedd ond yn digwydd bod yn Gymraeg. Mae nifer o agweddau ar yr arfer hon, ond mae’n amlwg ei bod mewn rhai ffyrdd yn cynrychioli “arallu” diwylliant yr iaith Gymraeg yn unol â’r hyn a ddywedwyd gan Edward Said yn ei drafodaeth enwog ar Ddwyreinioldeb.
Nôl

Ysgolheictod

O ganlyniad i’w hynafiaeth a’i chyfoeth, mae llenyddiaeth Gymraeg wedi bod yn ddeniadol iawn i gyfieithwyr ysgolheigaidd, o’r ddeunawfed hyd yr ugeinfed ganrif. Mae eu cyfraniadau wedi bod yn arbennig o drawiadol a gwerthfawr. Ond weithiau gall eu gweithgarwch hwy hyd yn oed ymddangos yn amheus i siaradwyr iaith gyntaf, gan bod perygl y gellir ymddangos fel pe baent yn mymieiddio ac yn claddu’r llenyddiaeth pan ei fod yn dal yn fyw iawn – arfer a allai, o gofio cyflwr yr iaith Gymraeg ar hyn o bryd, fod (yn anfwriadol) yn fygythiad difrifol i’w diwylliant.
Nôl

Ailintegreiddio

Wrth i hanes droi poblogaeth Cymru yn ddigamsyniol tuag at Saesneg ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe ddaeth cyfieithiadau llenyddol i fod yn fodd i rai ailintegreiddio’r genedl drwy weithredu rhyngddiwylliannol adferol. Mae’r nod hwn – er bod sawl ffurf iddo – wedi parhau i fod yn ganolog i gyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg drwy gydol yr ugeinfed ganrif.
Nôl

Cymhathiad

Mae cyswllt rhwng hyn ac ailintegreiddio, ond mae’n ystyried cyfieithu nid fel modd i gyfuno dau ddiwylliant Cymru ond fel modd i “ddinasyddio” mewnfudwyr. Yn ystod blynyddoedd Thatcher gwelwyd nifer fawr o siaradwyr Saesneg o ardaloedd mwyaf cyfoethog Lloegr (yn ogystal ag o ardal Seisnig de ddwyrain Cymru) yn mewnlifo i ardaloedd tlawd Gorllewin Cymru (a oedd yn dal i fod yn gadarnle diwylliant Cymraeg ar y pryd). Daeth awduron megis Menna Elfyn (a oedd gynt yn daer yn erbyn cyfieithu ei gwaith ei hun i Saesneg) i ystyried y gallai cyfieithu fod yn fodd i gyflwyno diwylliant cynhenid Cymru i’r newydd-ddyfodiaid a’u trwytho ynddo.
Nôl

Cydsafiad

Gall cyfieithu fod yn fodd i awduron “siarad ar draws” gwahaniaethau diwylliant a rhyw. Un nodwedd ddiweddar fu parodrwydd awduron Saesneg yng Nghymru i gyfieithu barddoniaeth gyfoes Gymraeg.
Nôl

Bod yn greadigol

Mae nifer o awduron Saesneg yng Nghymru wedi defnyddio cyfieithu o’r Gymraeg naill ai fel modd i ymarfer yn ystod seibiant o’u gwaith eu hunain, neu fel ffordd i arbrofi â “iaith” newydd ar gyfer eu gwaith eu hunain. Er enghraifft, gweler gyfieithiadau bwriadol llac Leslie Norris a “addasodd” (neu a ailysgrifennodd) gerddi Gwenallt; neu addasiad Joseph Clancy o ffurfiau barddas Cymraeg yn ei waith ei hun. Efallai mai’r enghraifft mwyaf o “ddylanwad” o’r math hwn yw barddoniaeth wreiddiol Tony Conran – un o’r cyfieithwyr modern mwyaf blaenllaw a chynhyrchiol o’r Gymraeg – y mae eu hadeiledd ddwys wedi’u siapio’n ddigamsyniol gan y goleuni a gafodd Conran drwy ddefnyddio cyfieithu fel modd i wneud archwiliad pelydr x o, a thrwy hynny gysylltu, esgyrn noeth math gwahanol o ymwneud cymdeithasol a geir yn y corff gwych o Farddoniaeth Gymraeg o’r Canol Oesoedd.
Nôl

Byddino

Yn ystod y chwedegau yn arbennig, fe drodd awduron megis Harri Webb at gyfieithu yn benodol er mwyn hybu ymwybyddiaeth ymysg y boblogaeth Saesneg o faterion cenedlaetholgar yr oedd nifer o’r awduron Cymraeg mwyaf yn mynd i’r afael â hwy. Mae’n werth nodi yma bod y ddau fath o lenyddiaeth yng Nghymru, yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, yn anghydnaws â’i gilydd o ran gwleidyddiaeth, gan fod cyfran o’r llenyddiaeth Gymraeg orau yn cael ei hysgrifennu yn unol â rhaglen wleidyddol genedlaetholgar a oedd, ar y pryd, yn wrthyn i Gymry Saesneg.
Nôl

Cyd-genedlaetholdeb

Gellir ystyried cyfieithu’n ffordd o gysylltu Cymru â byd ehangach ieithoedd a diwylliannau “lleiafrifol” sydd, yn baradocsaidd, wedi mabwysiadu Saesneg fel iaith gyffredin, ond sydd eto’n rhannu iaith ddiwylliannol a gwleidyddol nid â’r diwylliant Saesneg goruchaf ond â’r Gymru Gymraeg sy’n brwydro i oroesi’r oruchafiaeth honno. Yn ogystal, bu pledio achos Ewropeaeth yn un nodwedd amlwg ar ddiwylliant Cymraeg ers y ganrif ddiwethaf; gwerthfawrogi ei gysylltiadau hanesyddol ei hun â natur amlddiwylliannol y cyfandir.
Nôl

Diwylliant Amgen

Fe ymddengys mai un ysgogiad i rai cyfieithiadau o’r Gymraeg i’r Saesneg fu (ac yw) nodweddion cyn-fodern (ac felly, o bosib, gwrth-fodern ac ôl-fodern) diwylliant Cymraeg traddodiadol. Dyna pam, er enghraifft, fod rhai cyfieithwyr wedi rhoi gwerth mawr ar briodweddau cefn gwlad, cymunedol, ac, yn bennaf oll, crefyddol diwylliant Cymraeg (nas gweddnewidiwyd tan yn ddiweddar gan rymoedd trefoli, seciwlareiddio a phrynwriaeth dorfol).

Nid yw’r uchod ond yn rhestr fynegol o’r cymhelliant i gyfieithu. Ond mae’n werth ychwanegu bod y rhain yn eu tro yn “trosi” yn hoffter o wahanol arddulliau a ffurfiau. Mae pwyslais ar draddodiad, ar gyfoeth a pharhad diwylliant, yn arwain at gyhoeddi llyfrau sy’n cwmpasu canrifoedd o lenyddiaeth; mae antholegau’n caniatáu gosod deunydd Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr â’i gilydd ac felly maent yn destunau ardderchog at ddiben ailintegreiddio diwylliannol.

Yn olaf, mae rhoi gormod o bwyslais ar syniadaeth cyfieithu yn arwain at anwybyddu, er enghraifft, economeg cynhyrchu. Mae angen pwysleisio nad oes, ac na fu erioed, farchnad gref ddibynadwy ar gyfer cyfieithiadau o’r Gymraeg i’r Saesneg. Felly, ychydig iawn o fentrau sy’n deillio o’r galw yn y farchnad – ac os mai felly y bu hi, mae wedi bod gan amlaf o ganlyniad i ddiddordeb a grëwyd dros dro yn y farchnad gan ddatblygiadau gwleidyddol. (Felly, er enghraifft, enynnwyd diddordeb yng Ngorllewin Cymru o ganlyniad i’r anfodlonrwydd gwleidyddol yng Nghymru bryd hynny: ac unwaith eto, ddiwedd y nawdegau fe grëwyd diddordeb byrhoedlog mewn pethau Cymraeg o ganlyniad i ddatganoli, a hefyd poblogrwydd byrhoedlog llond llaw o fandiau pop a chymeriadau teledu Cymreig). Mae cyfieithiadau felly wedi deillio naill ai o fenter ac ymrwymiad personol (ac felly wedi bod yn ansystematig ac yn aml yn anghydnaws â datblygiadau economaidd a gwleidyddol sy’n cael cyhoeddusrwydd amlwg) neu o ganlyniad i reolaeth ddiwylliannol (e.e. rôl sefydliadau addysgol a Chyngor Celfyddydau Cymru wrth gomisiynu a meithrin rhaglenni cyfieithu).
Nôl