Home

 
welsh literary images
Rhai Myfyrdodau Cyffredinol
About Bullet - Welsh Language

 

Mae cyfieithiadau o’r Gymraeg i’r Saesneg yn enghraifft wych o natur annelwig cyfieithiadau llenyddol ar y cyfan pan gânt eu hystyried fel dull arwyddocaol ar gyfer ymwneud rhyngddiwylliannol. Gellir arddangos y posibiliadau a gynigir ganddynt ar gyfer canlyniadau negyddol a chadarnhaol a’u gallu i weithredu naill ai fel cyfryngwr diwylliannol neu chwalwr diwylliant drwy osod tri sylw gwrthgyferbyniol a wnaed yng nghyswllt yr hyn a elwir erbyn hyn yn Astudiaethau Cyfieithu ochr yn ochr â’i gilydd.

"Ym mhob gweithred gyfieithu - yn enwedig os yw’n llwyddiannus - mae gweithred o deyrnfradwriaeth. Mae casgliadau o freuddwydion, patrymau byw, yn cael eu dwyn dros y ffin". (George Steiner)

"Yng nghalon pob gwaith ffuglennol ymerodrol (calon tywyllwch) mae cyfieithu ffuglennol. Caiff yr Un Arall gwladychol ei gyfieithu o safbwynt yr hunan ymerodrol; a’r canlyniad yw dieithrio’r sawl a wladychwyd a rhoi dealltwriaeth ffuglennol i’r gwladychwr". (Eric Cheyfitz)

"Mae cydfodolaeth yn awgrymu cyfieithu iaith ddiwylliannol, wleidyddol, grefyddol, emosiynol yr un arall i iaith a diwylliant a atgyfnerthir gan bresenoldeb yr un arall. Y dewis arall yn lle cyfieithu yw mudandod ofn". (Michael Cronin)