 |
Llenyddiaeth Gymraeg
Felly,
mae’r Llenyddiaeth Gymraeg gynharaf (tua 600 OC), yn llenyddiaeth arwrol
i “greu cenedl” (a defnyddio ymadrodd cyfoes), ac mae eisoes yn cynnwys
awgrym o’r patrwm sðn hwnnw a fyddai cyn bo hir yn sefydlogi ar ffurf
cyfundrefn reoleiddiol y gynghanedd. Bu hyn yn ei dro yn ysgogiad i, ac
yn fodd i reoli’r traddodiad gwych hwnnw (sy’n dal i ddatblygu) o’r enw
barddas ac y mae’r corff cyfoethog o waith a wnaed tua diwedd y Canol
Oesoedd yn parhau i fod y gwaith mwyaf clodfawr sy’n perthyn i’r traddodiad
hwn. Mae’r ffurf hon yn arbennig o anghyfieithiadwy, yn bennaf oherwydd
ei fod yn ddibynnol ar y treigliadau sy’n rhan annatod o’r iaith Gymraeg;
eto mae peidio â’i chyfieithu yn fethiant nid yn unig i gyfleu mawredd
y traddodiad llenyddol Cymraeg ond hefyd i ymhél â’r wleidyddiaeth
sydd ynghlwm wrth y traddodiad hwnnw, hyd yn oed o ran ffurf.
Mae’r traddodiad hwn wedi bod mor flaenllaw nes bod perthynas annifyr
wedi bodoli rhyngddo â phob ffurf arall, gyda’r ffurfiau eraill
yn gorfod osgoi cael eu gyrru i’r cyrion ganddo. Er enghraifft, yn y bedwaredd
ganrif ar bymtheg y bu i gorff cryf o ganu caeth ymddangos yn y Gymraeg
am y tro cyntaf; ni ddaeth y soned i’r fei tan yn yr ugeinfed ganrif;
roedd canu rhydd yn newydd-ddyfodiad annifyr; fe gymerodd amser hir nes
y cafodd y nofel ei derbyn (o ganlyniad i wrthwynebiad crefyddol a diwylliannol)
– er mai chwedlau hudolus y Mabinogi (a gyfieithwyd yn y bedwaredd ganrif
ar bymtheg gan Lady Guest dan y teitl The Mabinogion) a’r rhamantau Arthuraidd
cysylltiedig, wrth gwrs, oedd un o’r gweithiau mwyaf clodwiw a oedd yn
perthyn i ddiwylliant llenyddol Ewrop yn y Canol Oesoedd (ac un o’r enghreifftiau
gorau o lwyddiant cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg yn yr oes fodern).
Golyga hyn oll fod y rhai sydd wrthi’n cyfieithu llenyddiaeth Gymraeg
yr ugeinfed ganrif yn wynebu’r tebygolrwydd y gall llawer o’r llenyddiaeth
(er yn radical ac yn rhyddhaol yn ei chyd-destun ei hun) ymddangos yn
hen ffasiwn wrth gael ei hailosod o fewn cyd-destun tramor diwylliant
Seisnig.
Nôl
|
|