| |
|||||
![]() |
Y GymraegTua 1900, wrth i boblogaeth gosmopolitaidd maes glo De Cymru (pwerdy’r Ymerodraeth Brydeinig ar y pryd) gyrraedd ei phenllanw, y trowyd y fantol ieithyddol o blaid Saesneg am y tro cyntaf. Hyd yn oed bryd hynny, roedd tua hanner y boblogaeth yn dal i siarad Cymraeg, ac am gyfnod hir ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd cyfran helaeth o’r boblogaeth yn dal i fod yn Gymry Cymraeg uniaith, er mai’r iaith Saesneg a ddatblygasai yn dilyn concwest y Normaniaid o ganlyniad i ymgyfuniad y diwylliannau Sacsonaidd a Normanaidd, a hynny o’i chychwyn cyntaf, oedd iaith gwladychwyr Seisnig i ddechrau ac yna bonedd Seisnigaidd a dosbarth proffesiynol a dosbarth canol Cymru. Bu cryn ddirywiad yn nifer y Cymry Cymraeg yn y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd, ond yn raddol fe gyrhaeddodd ei isafbwynt yn ystod y cyfnod wedi’r rhyfel, ac erbyn heddiw mae nifer y siaradwyr cwbl ddwyieithog yn gymharol sefydlog, sef un rhan o bump o’r boblogaeth. Mae’r Cymry Cymraeg hyn, sydd tua hanner miliwn mewn nifer, yn ddigon i gynnal diwylliant ffyniannus sy’n cynnwys ei Sianel Deledu ei hun, ei “ddiwydiant ffilmiau” gweddol fach ei hun, byd pop llwyddiannus a diwylliant llenyddol llewyrchus sy’n parhau i elwa ar yr egni a ryddhawyd gan yr adfywiad rhyfeddol mewn llenyddiaeth Gymraeg yn ystod tri degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif. Felly mae’r iaith yn “hynafol” ac yn fodern, yn “newydd ac wedi gwisgo” (“worn new”) (fel a ddywedodd Edward Thomas, bardd o dras Cymreig) gan brosesau treulio yn gysylltiedig â newidiadau hanesyddol diweddar Mae’r
Gymraeg â’i gwreiddiau rhyw 2000-3000 o flynyddoedd yn ôl
yng nghangen Frythonaidd yr iaith Geltaidd (Mae Goedeleg – yr iaith y
mae Gwyddeleg fodern yn tarddu ohoni – yn gangen arall). Mae’r iaith Gymraeg
ei hun yn tarddu o’r cyfnod 400-700 OC, ac fe’i crëwyd drwy gyfuno’r
Frythoneg wreiddiol gyda’r diwylliant Lladinaidd gwreiddiol a etifeddwyd
yn sgil cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig ym Mhrydain. Roedd dyfodiad y Gymraeg
yn gyfystyr â chreu pobl newydd yng Ngorllewin Prydain – y Cymry,
sef “cymrodorion; pobl a ddaeth at ei gilydd i wrthsefyll bygythiad “tramor”
y Sacsoniaid a’r Llu Du, a oedd yn eu tro yn ystyried y brodorion hyn
yn dramorwyr ac yn eu galw’n hynny, gan ddefnyddio enw y byddai’r gair
Saesneg “Welsh” yn tarddu ohono yn y pen draw”. |
||||