|
BWLET.net yw’r rhestr
gynhwysfawr gyntaf o gyfieithiadau llenyddol Cymraeg-Saesneg o’r cychwyn
cyntaf yn y ddeunawfed ganrif hyd heddiw. Wrth greu llyfryddiaeth ar-lein
ddiffiniol (y bwriedir creu fersiwn testun argraffedig i gyd-fynd â
hi) o gyfieithiadau o weithiau llenyddol Cymraeg o’r cyfnod cynharaf
hyd heddiw, y bwriad oedd mapio am y tro cyntaf nid yn unig ar gyfer
y gymuned ysgolheigaidd ryngwladol ond hefyd er budd diwylliant darllen
Saesneg ledled y byd gorff sylweddol iawn o ddeunydd sy’n cynnig goleuni
pellach ar lenyddiaeth a gydnabyddir yn hynafol a chyfoethog ond sy’n
dal i fod yn anhysbys i raddau helaeth.
|