 |
BWLET.net yn ei chyd-destun
Cenedlaethol
Dylai amcanion BWLET.net
daro deuddeg ar hyn o bryd yn arbennig, o gofio:
- Yn dilyn sefydlu
Cynulliad Cenedlaethol Cymru mae cydnabod natur ddeublyg diwylliant
yng Nghymru wedi dod yn fater angenrheidiol sydd o ddiddordeb ymarferol,
yn ogystal â damcaniaethol;
- Mae’r ffaith bod
newydd-ddyfodiaid di-Gymraeg yn dal i ymgynefino yng Nghymru unwaith
eto wedi amlygu’r angen am amrywiaeth eang o fentrau trawsddiwylliannol;
- Mae nifer o awduron
Cymraeg blaenllaw yn dechrau cydnabod y gall cyfieithu eu gwaith i’r
Saesneg fod o wasanaeth nid yn unig iddynt hwy fel artistiaid creadigol
ond yn ogystal i ddiwylliant yr iaith Gymraeg y maent yn parhau i fod
yn ymrwymedig iddo;
- Mae ymgyrch weithredol
iawn ar droed i gydnabod Prydain newydd, amlddiwylliannol;
- Mae diwylliant
Saesneg ledled y byd wedi dechrau ymddiddori mewn llenyddiaeth Gymraeg
fel a ddangosir o ganlyniad i gynnwys deunyddiau mewn antholegau a olygwyd
gan Seamus Heaney a Ted Hughes, a chan Robert Crawford;
- Mae Astudiaethau
Cyfieithu’n ddatblygiad sydd o ddiddordeb academaidd, ac eto mae diffyg
map o gyfieithiadau Cymraeg-Saesneg yn golygu nad ymchwilir byth i’r
maes hwn, sy’n un o’r cyfoethocaf yn y cyd-destun Prydeinig.
Chwilio BWLET.net
|
|