Home

 
welsh literary images

Cefndir Cyfieithu Llenyddiaeth o’r Gymraeg i’r Saesneg

Fe ddechreuodd cyfieithu i’r Saesneg i bob pwrpas yn y ddeunawfed ganrif ac mae’r arfer wedi parhau heb saib ers hynny, gyda chynnydd amlwg mewn cynhyrchiant yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae arddulliau cyfieithu wedi bod yr un mor amrywiol â nodau cyfieithwyr a chyhoeddwyr: academaidd, poblogaidd, masnachol, - llythrennol - (weithiau gan droi barddoniaeth yn rhyddiaith yn fwriadol), yn llac yn greadigol. Mae nifer o awduron creadigol, gan gynnwys nifer o’r rhai mwyaf adnabyddus, wedi cynhyrchu cyfieithiadau a chanddynt berthynas symbiotig â’u gwaith gwreiddiol eu hunain (e.e. R.S. Thomas, Emyr Humphries, Tony Conran, Leslie Norris a John Ormond). Mae cefndir y cyfieithwyr eu hunain wedi amrywio - Americanwr yw un o’r cyfieithwyr cyfoes mwyaf neilltuol ac mae wedi creu rhywfaint o’i waith yn benodol ar gyfer darllenwyr Americanaidd. Mae nifer o antholegau o gyfieithiadau wedi dylanwadu’n ddigamsyniol ar ddatblygiad llenyddiaeth Saesneg yr ugeinfed ganrif, o fewn Cymru a thu hwnt - er enghraifft, nid yn unig fe arweiniodd Blodeugerdd Penguin o Gerddi Cymraeg at fodolaeth nifer o feirdd Saesneg-Cymraeg unigryw, ond roedd hefyd yn gymorth i ffurfio arddull aeddfed y bardd o Awstraliad, Les Murray. Byth ers i bobl ddechrau cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, mae hyn wedi bod yn rhyngwyneb gwerthfawr rhwng Cymru a’r byd ehangach (mae diwylliannau ar wahân i ddiwylliant Saesneg fel arfer yn darganfod diwylliant Cymraeg drwy gyfrwng y Saesneg), rhwng Cymru a gwledydd eraill Ynysoedd Prydain, ac (yn bwysicaf oll, efallai) rhwng ddau ddiwylliant yng Nghymru ei hun. Mae cyfieithu wedi tyfu i gwmpasu llenyddiaeth Gymraeg i gyd bron, o’r farddoniaeth gynharaf (y seithfed ganrif), i lenyddiaeth y cyfnod clasurol (y Cynfeirdd, y Gogynfeirdd, Beirdd yr Uchelwyr) a llenyddiaeth bietistig a chrefyddol gyfoethog y ddeunawfed ganrif (gyda’r Diwygiad Methodistaidd a weddnewidiodd ddiwylliant) ac i farddoniaeth boblogaidd a gweithiau ffuglennol arloesol y bedwaredd ganrif ar bymtheg i adfywiad yr ugeinfed ganrif y mae awduron presennol (y mae eu cyfran helaeth o’r gwaith a gyfieithwyd yn eiddo iddynt) yn etifeddion iddo. Ymhlith y gwaith a gyfieithwyd mae clasuron cydnabyddedig diwylliant Ewrop - Y Mabinogi, gwaith Dafydd ap Gwilym, emynau William Williams Pantycelyn, straeon byrion Kate Roberts a dramâu, barddoniaeth, gweithiau ffuglennol ac ysgrifau gwleidyddol Saunders Lewis.

 

Nôl