Home

 
welsh literary images
BWLET.net fel adnodd
About Bullet - Welsh Language

Yn ogystal â darparu gwybodaeth ymarferol, er enghraifft a yw darn arbennig o waith neu waith awdur arbennig wedi cael ei gyfieithu neu faint o gyfieithiadau sydd ar gael mae gan BWLET.net botensial sylweddol i fod yn fodd i hybu dealltwriaeth ddiwylliannol o Gymru. Er enghraifft, fe ddylai alluogi’r astudiaeth hanesyddol gyntaf o weithgarwch cyfieithu yng Nghymru. Ac fe ddylai hefyd er yn hwyr iawn ddod â Chymru o fewn maes Astudiaethau Cyfieithu modern. Ymhlith y cwestiynau y gall fod o gymorth i’w hateb y mae’r canlynol:

  • Pa weithiau a droswyd ym mha gyfnod(au), a phaham?
  • Pa gyfnod oedd fwyaf cynhyrchiol o safbwynt cyfieithu?
  • Pa drosiadau a gyhoeddwyd, a chan ba weisg?
  • Sawl awdur sydd wedi cyfieithu ei (g)waith ei hun?
  • Pa fath o gynulleidfa benodol oedd gan y cyfieithwyr mewn golwg mewn cyfnodau gwahanol?
  • Pa weithiau a ddeil heb eu cyfieithu, a phaham?
  • Pwy oedd yn ariannu cyfieithiadau?
  • Pa arddulliau a strategaethau cyfieithu a ddefnyddiwyd?
  • Beth fu barn cyfieithwyr am eu gwaith?
  • Faint o gasgliadau o gyfieithiadau a fu gan awduron unigol a faint a fu gan nifer o awduron?
  • Sut y gallwn ddechrau olrhain y derbyniad y cafodd testunau a gyfieithwyd gan y beirniaid?
  • Faint o rifynnau dwyieithog a gyfieithwyd, a phryd?
  • Beth yw natur, neu statws, rhifyn dwyieithog?
  • Sut mae cyfieithydd yn trin sefyllfa pan fo’r diwylliant gwreiddiol a’r diwylliant targed yn anghydwedd?
  • A yw rhyw’r cyfieithydd a/ neu ryw’r sawl y mae ei waith yn cael ei gyfieithu o unrhyw bwys?
  • I ba raddau y gall cyfieithiad ddod yn weithredol fel dylanwad llenyddol ar y diwylliant targed?
  • Pa syniadau am y diwylliant sy’n derbyn a awgrymir gan y cyfieithiad?
  • Pa syniadau am y diwylliant gwreiddiol?

 

Nid cyfres o gwestiynau "academaidd" yw hon. Gall pob un ohonynt gynnig goleuni pellach, a gwreiddiol o bosib, nid yn unig ar hanes cyfieithu Cymraeg-Saesneg, ond hefyd ar isadeiledd diwylliant Cymraeg ynddo’i hun.

Chwilio BWLET.net